Bydd dilyn cynllun rheoli maethynnau yn sicrhau bod gwrtaith a thail buarth organig yn cael eu defnyddio’n effeithiol ac mae’n gallu:
Mae Llywodraeth Cymru yn diffinio NVZ fel ardal o dir sy’n draenio i ddŵr daear neu wyneb sy’n uchel mewn nitradau ar hyn o bryd, neu a allai fynd felly os nad oes camau priodol yn cael eu cymryd. Bydd ffermydd mewn NVZ yn cael eu cyfyngu o ran faint o wrtaith nitrogen sy’n gallu cael ei wasgaru ar y tir fel bod llai o bosibilrwydd iddo gael ei ryddhau i’r amgylchedd ehangach.
Mae dulliau modern cynhyrchu amaethyddol yn dibynnu ar ychwanegu maethynnau ar ffurf gwrtaith organig neu wedi’i weithgynhyrchu er mwyn cynnal lefelau cynhyrchu.
Cafodd Cyfarwyddeb Nitradau y Gymuned Ewropeaidd (91/676/EEC) ei chreu i leihau llygredd dŵr o ffynonellau amaethyddol. Mae’r Gyfarwyddeb yn cael ei chyflawni yng Nghymru drwy Reoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2013. Ei nod yw cyfyngu ar yr effaith negyddol bosibl ar y dyfroedd drwy nodi ardaloedd allai fod mewn perygl. Yr enw ar y rhain yw Parthau Perygl Nitradau (NVZs).
Arfer dda yw gwasgaru pob deunydd organig hylif yn agos at y ddaear gan ddefnyddio gwasgarwyr plât tasgu wyneb i waered, mae hyn yn orfodol mewn NVZ.
Bydd gwasgaru deunyddiau organig hylif gan ddefnyddio pibellau llusg, ‘trailing shoe’ neu offer chwistrellu bas yn eich galluogi i wasgaru’n gytbwys, i golli cyn lleied o amonia ac i leihau halogi’r cnwd/borfa o’i gymharu â thechnegau confensiynol i wasgaru ar wyneb y tir.
Cyfatebwch led y gwasgaru i sicrhau ei fod yn gytbwys. Osgowch golli hylif pan fyddwch chi’n llenwi ac yn symud offer o gwmpas y fferm. Gall colli hylif ar y ffordd fod yn drosedd ac mae dŵr ffo sy’n mynd i mewn i’r dŵr wyneb drwy ddraen ar briffordd yn risg allweddol.
Os ydych chi’n defnyddio techneg gwasgaru (plât tasgu) yna defnyddiwch system gwasgaru slyri isel a dafnau mawr (large droplet).
Dylai dom/tail organig hylifol gael ei ymgorffori i dir noeth neu sofl cyn gynted â phosibl er mwyn lleihau’r arogl, i osgoi colli amonia a’r perygl o ddŵr ffo.
Dylai dom sych gael ei ymgorffori hefyd i dir noeth neu sofl cyn gynted â phosibl, gan anelu at gwblhau’r gwaith cyn pen 24 awr.
Mae ymgorffori slyri a thom sych drwy aredig yn fwy effeithiol o ran lleihau arogl ac allyriadau amonia na thechnegau eraill fel disgiau neu offer llyfnu.
Mae llawer o gyrff sy’n cynnig cyngor ond yr egwyddorion allweddol yw...
FfynhonnellAr fap fferm nodwch yr ardaloedd gwahanol gan ddefnyddio cod:

*Caeau silwair: 1, 2, neu 3 cnwd yn cael eu cymryd
Gwasgaru ar ôl torri
*Mae anghenion gwahanol gan gaeau pori
Cyfraddau gwasgaru – Arfer dda yw peidio â gwasgaru mwy na 50m3/ ha (4500 galwn/erw) o slyri ar un waith oherwydd y risg o ddŵr ffo i gwrs dŵr, neu golledion i ddŵr daear.
Pan fydd y pridd yn orlawn o ddŵr mewn cae, dylech chi osgoi gwasgaru.
Mae cyfraddau gwasgaru llawer rhy uchel yn gallu arwain hefyd at broblemau rheoli gan gynnwys silwair gwair o ansawdd wael, ŷd yn cwympo ar ei orwedd a phroblemau mewn stoc sy’n pori.
Mae capasiti storio da yn cynnig y cyfle i chi wasgaru tail ar adegau cywir, effeithiol y flwyddyn.
Gweithiwch allan eich capasiti mewn metrau ciwbig ac yn ddelfrydol dylai ddal hyd at 5 mis o gynnyrch.
Fel arfer mae’r anghenion capasiti yn dibynnu ar adeg y flwyddyn.
Ar gyfer fferm o’ch dewis, lluniwch gynllun Maethynnau Fferm.
Wrth i unedau amaethyddol fynd yn fwy, wrth i’r gwastraff y maen nhw’n ei gynhyrchu gynyddu ac wrth i gost gwrtaith artiffisial godi, bydd cynllunio maethynnau fferm yn dod yn fwy pwysig.
Mae’n elfen hanfodol o arferion amaethyddol da er mwyn lleihau llygredd amgylcheddol.