Erbyn diwedd y sesiwn hon byddwch chi’n gallu:
- Disgrifio pa mor bwysig yw pridd iach i ffermio da
- Esbonio effaith cyfradd gwasgaru slyri ar iechyd pridd
- Nodi manteision gwasgaru slyri mewn da bryd am resymau economaidd
Sut mae slyri’n effeithio ar y pridd?
Bydd gan bridd iach;
- Boblogaeth mwydod gydag isafswm o 10 mwydyn y droedfedd sgwâr
- Mwydod o faint amrywiol er mwyn sicrhau bod mwydod yn dod yn lle hen fwydod sy’n marw
- Pridd â lliw iach, heb gleio
- Dim arogl sylffwr
- Gwreiddiau sy’n ymestyn yn ddwfn, nad ydyn nhw’n tyfu i lawr yn fertigol ac yna’n dechrau tyfu’n llorweddol
- Dylai’r pridd fod yn friwsionllyd, a dylai falu’n rhwydd
Pam mae pridd iach yn bwysig?
Dylid cynnal iechyd pridd er mwyn:
- Torri maethynnau i lawr a’u defnyddio. Os nad yw planhigion yn gallu defnyddio’r maethynnau, bydd gwrtaith/tail buarth/slyri yn cael eu gwastraffu.
- Osgoi maethynnau sy’n trwytholchi. Os yw’r pridd wedi’i gywasgu, fydd y gwreiddiau ddim yn gallu defnyddio maethynnau a byddan nhw’n trwytholchi gyda’r dŵr i’r dyfrffyrdd.
- Mae angen i wreiddiau allu tyfu’n ddwfn er mwyn defnyddio maethynnau a hefyd er mwyn cyrraedd ffynonellau dŵr.
- Cynyddu twf porfa/cnydau/planhigion, os nad yw gwreiddiau’n gallu gweithio’n effeithlon o dan yr arwyneb, fydd y cnwd ddim yn tyfu mor effeithlon ag sy’n bosibl.
- Hyrwyddo twf rhywogaeth porfa gynhyrchiol, mewn glaswelltir, mae rhywogaethau chwyn yn fwy tebygol o dyfu mewn amodau wedi’u cywasgu, asidig a/neu wlyb.
- Cynyddu elw, pan mae rhywogaethau dymunol o borfa/cnydau yn tyfu’n effeithlon, fel bod cymaint o gnwd ag sy’n bosibl, mae mwy o gnydau ar gael i’w gwerthu, neu i’w bwydo i dda byw.
Llawlyfr priddoedd gwelltiroedd iach.
Pa effaith mae slyri gwartheg yn ei chael ar y pridd?
Mae arferion rheoli fferm yn gallu helpu a rhwystro’r prosesau biolegol sy’n digwydd yn y pridd. Lle mae’n bosibl, dylai ffermwyr geisio rheoli amodau’r pridd er mwyn rhoi’r bwyd a’r amodau byw gorau i organebau pridd fel y gallan nhw fod mewn cytgord a chynnal priddoedd ffrwythlon a chynhyrchiol.
Mae slyri gwartheg yn cynnwys ffynhonnell dda o Nitrogen, Ffosffad a Photash.
Cyfradd gwasgaru
- Dylid gwasgaru slyri gwartheg ar y gyfradd gywir.
- Mae’r gyfradd yn cael ei mesur mewn metr ciwbig/hectar.
- Mae ffermwyr yn gweithio allan beth yw’r gyfradd gwasgaru slyri mewn litrau/hectar.
- Ond dydy pob slyri ddim yr un fath!
Amrywiadau mewn slyri gwartheg
% y Deunydd Sych
Mae hyn yn dibynnu ar faint o ddŵr sy’n cymysgu i mewn gyda’r slyri, a hefyd y math o ddeiet sy’n cael ei fwydo i’r fuwch.
Math o Ddeiet
Mae’r math o ddeiet sy’n cael ei fwydo i fuwch yn dylanwadu ar faint o Nitrogen sydd yn y slyri – Deiet N uchel = Slyri N uchel
Dull Storio
Beth yw’r effaith ar y pridd os oes gormod o slyri’n cael ei wasgaru?
Mae’r dŵr ffo yn achosi risg llygredd
Mae gormod o slyri’n gallu achosi:
- gormod o halogiad yn llafnau’r glaswellt
- cywasgu ar y deunydd ar waelod y planhigyn porfa sy’n farw ac yn pydru’n barod
- lleihad sydyn yn pH yr uwchbridd, gan wneud i’r amgylchedd fod yn asidig
- i’r organebau byw yn yr uwchbridd farw
Gweithgaredd i wirio’r dysgu
Darllenwch y darn canlynol o daflen AHDB ar Briddoedd iach a lluniwch ddiagram sy’n cynnwys yr wybodaeth i gyd.
Mewn priddoedd glaswelltir, mae’r bywyd yn y pridd o dan yr wyneb yn aml yn pwyso deg gwaith yn fwy na’r da byw sy’n pori a welwch chi ar yr wyneb. Mae organebau pridd yn amrywiol dros ben ac maen nhw’n chwarae amrywiaeth o rolau allweddol yn y rhan fwyaf o brosesau’r pridd. Biota pridd yw’r term torfol am yr holl organebau byw hyn, ac eithrio gwreiddiau planhigion. Weithiau, bywyd y pridd yw’r enw syml arnyn nhw.
Mewn systemau glaswelltir, mae bywyd y pridd yn:
- Ffurfio gwe fwyd gymhleth sy’n cael egni o fewnbynnau carbon i’r pridd mewn mater organig drwy wreiddiau planhigion, gweddillion cnydau a charthion da byw;
- Helpu nitrogen i gael ei sefydlogi drwy’r symbiosis rhwng rhisobia a chodlysiau (legumes);
- Gyrru’r broses o gylchu ffosfforws, nitrogen a sylffwr er mwyn ailgylchu maethynnau’n ôl i ffurf sydd ar gael i blanhigion;
- Sefydlogi strwythur y pridd ac yn galluogi’r pridd i amsugno dŵr glaw drwy rwydwaith o fandyllau agored.
- Datblygu rhwydwaith o fandyllau fel sbwng i ddal gafael ar ddŵr ac i gynnal twf y borfa yn ystod sychder.
Mae arferion rheoli fferm yn gallu helpu a rhwystro’r prosesau biolegol sy’n digwydd yn y pridd. Lle mae’n bosibl, dylai ffermwyr geisio rheoli amodau’r pridd er mwyn rhoi’r bwyd a’r amodau byw gorau i organebau pridd fel y gallan nhw fod mewn cytgord a chynnal priddoedd ffrwythlon a chynhyrchiol.
Ffynhonnell
Gweithgaredd: Gwnewch ddiagram i ddangos pwysigrwydd bywyd yn y pridd.
Crynodeb
Mae pridd iach yn hanfodol i gnwd iach sy’n arwain at ffermio da.
Canlyniad rhoi mwy o ystyriaeth i sut mae tail yn cael ei ddefnyddio a’i wasgaru yw:
- Mae llawer o ffyrdd o gael gwared ar dail buarth a slyri ar y fferm.
- Maen nhw i gyd yn gallu niweidio’r amgylchedd os nad ydyn nhw’n cael eu defnyddio’n gywir.
- Mae manteision ac anfanteision i bob un o’r dulliau.
- Mae’r gyfradd gwasgaru gywir ar yr adeg gywir o’r flwyddyn yn allweddol i gael llwyddiant.
- Bydd y fferm yn cael budd ariannol o ddefnyddio gwastraff fferm organig sy’n gyfoethog mewn maethynnau.
Fodd bynnag, mae rheoli tail buarth yn wael yn gallu achosi i lygrwyr (gan gynnwys maethynnau) fynd i gyrsiau dŵr, llynnoedd a dŵr daear, drwy ddŵr ffo neu ddraenio (er enghraifft, draeniau tir).