Beth yw’r gwahaniaeth?
Deddfwriaeth: ‘cyfraith neu set o gyfreithiau wedi’u hawgrymu gan lywodraeth ac wedi’u gwneud yn swyddogol gan senedd’.
Codau Ymarfer: ‘set o safonau y mae grŵp o bobl sy’n gwneud swydd benodol wedi cytuno arnyn nhw’.
Mae’r ddeddfwriaeth hon yn cwmpasu llygredd dŵr daear gan sylwedd peryglus.
Ystyr ‘dŵr daear’ yw pob dŵr sydd o dan arwyneb y tir yn y parth dirlawnder ac sydd mewn cysylltiad uniongyrchol â’r pridd neu â’r isbridd;
Mae’n cwmpasu mewnbwn ‘uniongyrchol’ sy’n golygu cyflwyno llygrydd i ddŵr daear heb iddo dreiddio drwy’r pridd neu’r isbridd; a hefyd mewnbwn ‘anuniongyrchol’ sy’n golygu cyflwyno llygrydd i ddŵr daear ar ôl iddo dreiddio drwy’r pridd neu’r isbridd.
Cyfarwyddyd Dŵr Daear (Cymru a Lloegr)
Mae’r Ddeddf hon yn ymwneud â sut mae gwastraff yn cael ei reoli a sut dylid rheoli allyriadau i’r amgylchedd.
Mae Rhan 1 y ddeddf yn diffinio canllawiau cyffredinol sy’n gallu gosod terfynau ar unrhyw broses sy’n creu allyriadau.
O’r blaen, cyfrifoldeb yr awdurdodau lleol ac Arolygiaeth Llygredd ei Mawrhydi oedd gorfodi allyriadau. O 1996, cymerodd Asiantaeth yr Amgylchedd drosodd.
Mae Rhan 2 y Ddeddf yn ymwneud â thrwyddedu a rheoleiddio er mwyn gwaredu gwastraff wedi’i reoli ar dir mewn ffordd addas.
Yn y cyd-destun hwn, mae gwastraff wedi’i reoli’n cyfeirio at wastraff diwydiannol, masnachol neu wastraff cartrefi ac mae’n gwahardd gwaredu, trin neu ollwng gwastraff heb ei awdurdodi mewn ardal waharddedig.
Hefyd mae’r ddeddfwriaeth yn rhoi gorfodaeth drwy ddyletswydd gofal ar weithgynhyrchwyr, cludwyr, arbenigwyr trin neu waredu neu’r rhai sy’n mewnforio cynnyrch i reoli gwastraff wedi’i reoli i osgoi gweithgareddau niweidiol neu heb eu hawdurdodi o ran gwaredu gwastraff.
Sefydlodd y ddeddf hon Asiantaeth yr Amgylchedd.
Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn gorff cyhoeddus anadrannol, wedi’i noddi gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.
Maen nhw’n gweithio i greu lleoedd gwell i bobl a bywyd gwyllt, ac i gefnogi datblygiad cynaliadwy.
Gwefan Asiantaeth yr AmgylcheddCyfoeth Naturiol Cymru yw’r Corff mwyaf sydd wedi’i Noddi gan Lywodraeth Cymru – mae’n cyflogi 1,900 o staff ledled Cymru gyda chyllideb o £180 miliwn.
Cafodd CNC ei ffurfio ym mis Ebrill 2013, gan gymryd drosodd swyddogaethau Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Comisiwn Coedwigaeth Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd yng Nghymru, yn ogystal â rhai o swyddogaethau Llywodraeth Cymru.
Gwefan Cyfoeth Naturiol CymruMae’r rhain yn rhoi dyletswydd gofal ar unrhyw berson sy’n mewnforio, cynhyrchu, cludo, cadw, trin neu waredu gwastraff wedi’i reoli, neu, fel brocer, sydd â rheolaeth dros wastraff fel hyn.
Mae’r ddyletswydd yn golygu bod rhaid i bersonau fel hyn sicrhau nad oes gollwng, trin neu waredu’r gwastraff heb awdurdod neu’n niweidiol, atal bod y gwastraff yn dianc o’u rheolaeth nhw neu o reolaeth person arall, ac wrth drosglwyddo’r gwastraff, sicrhau mai i bersonau awdurdodedig yn unig mae’n cael ei drosglwyddo.
Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Dyletswydd Gofal) 1991
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth sy’n gysylltiedig â gorfodi’r system trwyddedu rheoli gwastraff o dan Ran II Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 ac er mwyn gweithredu rhai Cyfarwyddebau Cyngor penodol sy’n ymwneud â gwastraff.
Gwefan Trwyddedu GwastraffMae Deddf Rheoli Llygredd (Diwygio) 1989 yn ei gwneud hi’n drosedd i berson nad yw’n gariwr cofrestredig gludo gwastraff wedi’i reoli i neu o unrhyw le ym Mhrydain Fawr.
Hefyd mae’n darparu ar gyfer ymafael (seizure) mewn cerbydau a gwaredu cerbydau sy’n cael eu defnyddio i waredu gwastraff anghyfreithlon.
Mae’r Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff yn nodi mesurau sy’n rhoi sylw i effeithiau niweidiol cynhyrchu a rheoli gwastraff ar yr amgylchedd ac ar iechyd dynol, ac i wella defnydd effeithiol o adnoddau sy’n allweddol i drawsnewid i economi cylchol.
Cyfarwyddeb (UE) 2018/851 Senedd Ewrop a’r CyngorGwastraff wedi’i reoli yw gwastraff lle mae rheolaeth ddeddfwriaethol wrth ei drin neu ei waredu.
Mae’r mathau o wastraff yn cynnwys gwastraff domestig, masnachol a diwydiannol.
Maen nhw wedi’u rheoleiddio o achos eu natur wenwynig, eu natur beryglus neu eu gallu i wneud niwed i iechyd dynol neu i’r amgylchedd naill ai nawr neu rywbryd yn y dyfodol.
Gofid mawr yw effeithiau pydru’n naturiol (biodegradation) neu bydru biocemegol a’r sgil gynnyrch sy’n cael ei gynhyrchu.

Mae llygredd a gwastraff yn gallu cael effaith negyddol iawn ar yr amgylchedd.
Mae’n bwysig bod Deddfau sy’n atal pobl rhag llygru.
Mae asiantaethau sydd â chyfrifoldeb i fynd i’r afael â’r bobl sy’n llygru ac i fynd â nhw i’r llysoedd.