07: Dulliau gwaredu gwastraff ar gyfer Slyri a thail buarth
Erbyn diwedd y sesiwn hon byddwch chi’n gallu:
Disgrifio’r amrywiaeth o offer cysylltiedig â slyri a gwasgaru tail buarth.
Esbonio’r dulliau cywir o wasgaru slyri a thail buarth.
Nodi manteision ac anfanteision pob peiriant.
Gwerthuso eu heffeithiolrwydd mewn termau economaidd ac amgylcheddol.
Gwastraff organig o Dda byw
Disgrifir hwn mewn dwy ffordd:
Tail buarth
Slyri
Beth sy’n digwydd pan fydd tail buarth neu slyri’n cael ei wasgaru ar wahanol adegau o’r flwyddyn?
Diwedd y gaeaf/y gwanwyn yw’r adeg orau o’r flwyddyn i wasgaru gan mai dyma pryd mae cnydau fwyaf tebygol o allu defnyddio’r maethynnau. Mae hyn yn golygu cael y cynnyrch mwyaf, mae costau gwrtaith yn cael eu lleihau ac mae’n lleihau colledion maethynnau i’r amgylchedd i’r eithaf.
Os yw maethynnau’n cael eu rhoi yn ystod yr hydref neu ddechrau’r gaeaf, pan nad oes eu hangen nhw, yn enwedig nitrogen, byddan nhw’n cael eu colli drwy ddŵr ffo (runoff) a thrwytholchiad (leaching) (yn enwedig ar briddoedd bas/tywodlyd).
Yn yr haf mae llai o berygl o drwytholchiad, ond mae nitrogen ychwanegol yn cael ei golli fel nwy amonia o’r tail sy’n cael ei wasgaru.
Osgowch yr adegau risg uchel. O ganlyniad i wasgaru ar ddiwedd yr hydref ac ar ddechrau’r gaeaf mae maethynnau’n cael eu trwytholchi, mae dŵr ffo ac mae tymheredd y pridd yn is, sy’n lleihau faint mae’r planhigyn yn ei gymryd.
Defnyddiwch ddulliau allyriadau isel yn yr haf, ee plât tasgu gan fod colledion amonia uchel yn gyffredin.
Osgowch yr ardaloedd risg uchel. Dylech chi osgoi llethrau serth, tir llawn dŵr a thir wedi rhewi.
Osgowch wasgaru’n drwm (Dylid osgoi > 50m³/ha y gwasgariad).
Gwasgarwch beth sydd ei angen ar y cnwd yn unig, gwiriwch fynegeion y pridd (soil indexes) ac ystyriwch y maethynnau sydd mewn slyri.
Gwiriwch fod y gwasgarwyr wedi’u graddnodi (calibrated) yn gywir a’u bod nhw’n gwasgaru’n gywir.