Mae gofynion cyfreithiol ar gyfer dylunio (capasiti), adeiladwaith a chynnal a chadw cyfleusterau storio ar gyfer silwair, a slyri. Mae dŵr silwair a slyri wedi achosi llygredd difrifol, yn aml oherwydd capasiti storio annigonol neu adeiladwaith gwael.
Mae Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Silwair, Slyri ac Olew Tanwydd Amaethyddol) (Cymru) yn gosod safonau ar gyfer storio silwair, slyri ac olew tanwydd amaethyddol er mwyn lleihau’r risg o lygredd i’r eithaf.
Mae Rheoliadau Silwair, Slyri ac Olew Tanwydd Amaethyddol Cymru 2010 yn disodli’r Rheoliadau a wnaed gyntaf yn 1991. Mae gosodiadau a oedd yn cael eu defnyddio, neu wedi’u hadeiladu cyn mis Mawrth 1991, neu lle gwnaed cytundeb i adeiladu cyn mis Mawrth 1991 ac a gwblhawyd cyn mis Medi 1991 yn ‘strwythurau wedi’u heithrio’.
Gallwch lawrlwytho’r nodyn cyfarwyddyd o wefan Llywodraeth Cymru.
Disgrifir hwn mewn dwy ffordd:
© Ffermio / Telesgop / S4C
Mae angen lle storio digonol er mwyn i’r slyri gael ei roi ar y tir ar adeg gywir y flwyddyn. Mae’r amseru hwn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y maethynnau yn y pridd pan fydd eu hangen ar y planhigion. Hefyd mae’n sicrhau bod cyn lleied o lygredd ag sy’n bosibl.
Cefndir
Fferm laeth arbenigol 101 hectar yw Fferm y Llys gyda 220 o wartheg godro a hyd at 30 o heffrod/aneri/treisiedi o oed amrywiol. Mae’r fferm mewn ardal NVZ sy’n bodoli’n barod. Mae’r fferm wedi ehangu dros y blynyddoedd diwethaf a buodd lefel gymedrol o ailfuddsoddi. Mae’r busnes yn bwriadu parhau i gynhyrchu llaeth hyd y gellir rhagweld ac mae’n barod i fuddsoddi mewn rhagor o le i storio slyri os oes rhaid.
Capasiti storio presennol
Mae’r adnoddau storio slyri presennol yn cynnwys tŵr slyri gyda phydew derbyn bach. Mae’r tŵr yn dri chylch o uchder ac mae’r diamedr yn 22m. Mae’n gallu dal 1730m3 gyda lle i storio 45m3 ychwanegol yn y pydew derbyn.
Proffil o fusnes y fferm
Ffermwr: Mr a Mrs John Evans
Fferm: Tafarn yr Oen, Sir Gâr
Gwartheg: 220 o wartheg godro a dilynwyr
Cynnyrch: 9100 litr
Stoc ifanc: 15 y flwyddyn
Tir: 101ha
Cnydau: Gwair ac indrawn (maize)
NVZ: Mae’r fferm mewn ardal NVZ sy’n bodoli’n barod
Gweithiwch allan a yw’r fferm yn gallu storio digon o slyri am 5 mis dros gyfnod y gaeaf.
Yn ogystal â’r slyri y mae’r gwartheg yn ei gynhyrchu, mae ffynonellau dŵr ychwanegol a fyddai’n gwanedu (dilute) i mewn gyda’r slyri.
Mae hyn o ganlyniad i ddŵr y buarth budr/brwnt, glaw sy’n cwympo i storfa slyri heb ei gorchuddio a golchion parlwr.
Mae’r rhain yn cael eu hychwanegu at yr hafaliad fel hyn:
Slyri + Glawiad cyfartalog am y 5 mis llawn mewn metrau + dŵr ar gyfer golchi i lawr sy’n + 3 metr ciwbig y fuwch / 5 mis.
Slyri + glawiad + golchion parlwr/buarth
Er mwyn gweld a yw’r fferm yn gallu storio digon o slyri:
Capasiti storio - cynnyrch slyri = ?
Os yw’r ddau ffigwr yr un fath, mae popeth yn iawn, ond mae plws neu finws yn dangos bod gormod o gapasiti neu ddim digon.
Sut rydych chi’n gweithio hyn allan?
Lluosogwch yr hyd (m) wrth y lled (m) wrth yr uchder (m)
Dylai’r uchder gael ei leihau 0.3m ar gyfer bwlch rhwng gwefus y storfa a’r slyri fel ffin diogelwch yn erbyn mwy o risg o lygredd oherwydd stormydd.
Mesurwch y cylchedd (circumference).
Cyfrifwch y radiws drwy luosi’r cylchedd â 3.142, yna rhannwch â 2
Cyfrifwch arwynebedd y llawr drwy luosi’r radiws â’r radiws (r2), yna lluoswch â 3.142
Lluoswch arwynebedd y llawr (m2) â’r uchder (m) (gostyngwch yr uchder 0.3m i gael bwch rhwng gwefus y storfa a’r slyri) i roi capasiti’r storfa slyri (m3)
Amcangyfrifwch yr hyd (m) a’r lled (m) a’r dyfnder cyfartalog (m), o ben y pridd i waelod y lagŵn.
Gostyngwch y dyfnder cyfartalog 0.75m i gael bwlch rhwng gwefus y storfa a’r slyri ac i roi’r dyfnder dyfrhau.
Gostyngwch hyd a lled y lagŵn rydych chi wedi’i fesur ddigon i ganiatáu ar gyfer yr ymylon sydd ar oledd.
Lluosogwch yr hyd wedi’i addasu wrth y lled wedi’i addasu wrth y dyfnder dyfrhau i gael y capasiti storio (m3).
Gweithiwch allan gapasiti storio’r cyfleusterau canlynol.
Dylai eich ateb fod mewn m³.
Rydyn ni’n gwybod bod slyri gwartheg yn gallu cael effaith niweidiol iawn ar yr amgylchedd os yw’n llygru afonydd, llynnoedd. Mae gwartheg yn cynhyrchu llawer iawn o slyri, ac mae hwn, wedi’i gymysgu â dŵr glaw a dŵr brwnt/budr o’r buarthau yn galluogi’r maethynnau i gael eu rhoi ar yr adeg gywir o’r flwyddyn.
Mae’n bosibl gwneud cyfrifiadau i helpu ffermwyr i weithio allan beth yw eu hanghenion storio a’u capasiti storio.
Mae’n bwysig bod digon o gapasiti storio ar gyfer faint o slyri sydd.