Mae gwastraff organig ac anorganig.
Mae gwastraff anorganig yn gallu achosi problemau ar fferm achos dydy e ddim yn gallu cael ei ddefnyddio fel ffynhonnell maethynnau.
Felly rhaid ei storio ar y fferm ac yna ei waredu’n gywir.
Edrychwch ar y sleidiau canlynol a gweithio allan sut dylai’r gwastraff gael ei storio a’i waredu.
Rhaid gwaredu stoc drig (da byw sy’n marw o achosion naturiol neu glefyd neu sy’n cael ei ladd ar fferm at bwrpas heblaw am er mwyn bwydo pobl) yn unol â Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Gorfodi) (Cymru) 2011.
Os yw da byw yn marw ar eich fferm, rhaid iddyn nhw gael eu casglu, eu hadnabod a’u cludo o’ch fferm cyn gynted ag y mae’n rhesymol ymarferol.
Rhaid i chi beidio:
Rhaid i chi drefnu i’r anifail gael ei gasglu gan gludydd sydd wedi’i gymeradwyo a’i gymryd i’w waredu i un o’r canlynol:
Mae rheoliadau llym sy’n gysylltiedig â gwaredu gwastraff. Mae gwastraff peryglus yn cynnwys:
Defnyddiwch fusnesau sydd wedi’u hawdurdodi i gasglu, ailgylchu neu waredu eich gwastraff peryglus – gwiriwch fod cludwyr gwastraff wedi’u cofrestru a bod trwyddedau amgylcheddol gan safleoedd gwastraff;
Rhaid gwaredu plastig gwastraff fel deunydd lapio silwair a chynwysyddion plaladdwyr mewn safle gwaredu wedi’i gofrestru. Ni chaniateir llosgi.
Os yw llaeth yn cael ei gynhyrchu ar eich fferm, dydy rheoliadau sgil-gynhyrchion anifeiliaid ddim yn berthnasol ac, ond iddo aros ar eich fferm, gallwch ei waredu fel rydych chi eisiau, gan gynnwys:
Mae llawer o fathau o wastraff ar fferm a dyletswydd y ffermwr yw eu gwaredu nhw’n gywir.
Mae gwastraff yn gallu niweidio’r amgylchedd drwy lygredd.
Hyn a hyn o adnoddau sydd gan y Ddaear a dylai ailgylchu fod yn flaenoriaeth.