3: Cynhyrchu a Rheoli Gwastraff ym myd Amaeth
Erbyn diwedd y sesiwn hon byddwch chi’n gallu:
- Disgrifio sut mae cynhyrchu ar y fferm yn effeithio ar faint y gwastraff sy’n cael ei gynhyrchu
- Disgrifio sut mae gwastraff yn gallu cael ei reoli drwy fesurau fel biodreulwyr (biodigesters) ac ati
- Nodi manteision rheoli gwastraff i fusnesau ffermio
Beth sy’n dylanwadu ar faint y deunydd gwastraff sy’n cael ei gynhyrchu o fferm da byw?
Tasg: Ysgrifennwch yr holl ddeunyddiau gwastraff y mae fferm da byw yn eu cynhyrchu.
Pethau a allai ddylanwadu ar faint y gwastraff y mae fferm yn ei gynhyrchu
- Niferoedd y da byw
- Tywydd
- Math o fan gorwedd
- Math o ddeunydd gorwedd
- Nifer fawr o beiriannau
Mae ffermwyr yn gallu dylanwadu ar faint y gwastraff.
Edrychwch ar y darluniau canlynol ac esboniwch sut yn y daflen waith a roddir i chi.
Tasg
Ar y daflen waith, llenwch y bylchau i nodi lle mae’r gwastraff wedi cael ei gynhyrchu, beth sy’n effeithio ar faint a gynhyrchir a sut mae’n gallu cael ei leihau.
Lawrlwythwch y daflen
Rheoli gwastraff
Mae angen i ffermydd reoli eu gwastraff eu hunain a dylid rhoi’r cynllun canlynol ar waith.
- 1: Gwneud arolwg o’ch arferion presennol - Gwnewch arolwg o’ch arferion rheoli ar hyn o bryd. Gwerthuswch natur, ansawdd a chostau llawn delio â gwastraff. Nodwch y ffynhonnell a’r llwybr gwaredu presennol. Rhowch y sylw mwyaf i’r materion mwyaf arwyddocaol.
- 2: Osgoi gwastraff - Edrychwch i weld a oes modd osgoi’r gwastraff o’r dechrau’n deg. Ystyriwch ddeunyddiau eraill neu’r defnydd o dechnegau amgen.
- 3: Lleihau gwastraff - Lle nad yw hi’n bosibl osgoi gwastraff, ystyriwch sut gallech chi ei leihau. Edrychwch ar yr opsiynau i gyd. Ystyriwch newidiadau technegol i’r system neu ystyriwch ddefnyddio technegau rheoli eraill. Ystyriwch gymwysterau a hyfforddiant y staff.
- 4: Lleihau gwastraff - Mae’n bosibl ailddefnyddio rhai deunyddiau gwastraff fel y deunydd crai i broses arall.
- 5: Ailgylchu gwastraff - Mae llawer o ddeunyddiau gwastraff yn gallu cael eu hailgylchu ar gyfer pwrpas eilaidd. Gwiriwch y Cyfeirlyfr Ailgylchu yn www.wasterecycling.org.uk neu gwiriwch gyfeirlyfrau lleol a gwefannau am ganolfannau ailgylchu neu gontractwyr arbenigol.
- 6: Gweithredu - Lluniwch restr fer o welliannau posibl a gweithredwch er mwyn gwneud i’r arbedion weithio.
Crynodeb
- Mae pob fferm yn cynhyrchu gwastraff a’r ffermwr sy’n gyfrifol am geisio lleihau’r holl fathau sy’n cael eu cynhyrchu.
- Mae nifer o ffactorau sy’n effeithio ar faint o wastraff sydd; mae rhai o dan reolaeth y ffermwr, e.e. math y deunydd gorwedd, a dydy rhai ddim, e.e. y tywydd.
- Hefyd mae rheswm economaidd dros leihau gwastraff ac ailddefnyddio maethynnau e.e. prisiau gwrtaith yn erbyn tail buarth a slyri.
- Mae’n gwneud mwy o synnwyr busnes i ddefnyddio maethynnau gwastraff ar gnydau.
Adnodd defnyddiol – Canllaw ar ddosbarthu ac asesu gwastraff
Tudalen waith orffenedig