2: Mathau o Wastraff mewn Amaethyddiaeth
Erbyn diwedd y sesiwn hon byddwch chi’n gallu:
- Rhestru gwahanol fathau o wastraff sydd i’w cael yn gyffredin mewn busnes fferm
- Adnabod ffynhonnell pob math o wastraff
- Diffinio gwastraff organig, anorganig, peryglus ac ailgylchadwy
- Dosbarthu gwastraff yn grwpiau
Mathau o wastraff
Y mae 4 prif gategori y mae gwastraff o ffermydd yn perthyn iddyn nhw:
- Organig
- Anorganig
- Peryglus
- Ailgylchadwy
Rheoli maethynnau a gwastraff
Gwastraff Organig ac Anorganig
- Gwastraff Organig - Fel arfer mae gwastraff Organig yn dod o anifeiliaid neu blanhigion.
- Gwastraff Anorganig - Sylweddau cemegol sy’n dod o fwynau yw gwastraff Anorganig.
Allwch chi adnabod rhagor o wastraff o’r ddelwedd hon?
Gwastraff o’r Diwydiannau Amaethyddol
- ORGANIG
- Slyri
- Tail Buarth
- Stoc marw
- Toriadau coed
- Toriadau glaswellt
- Planhigion
Gwastraff o’r Diwydiannau Amaethyddol
- ANORGANIG
- Gwrtaith cemegol
- Teiars
- Plastigau o gladdfeydd silwair/byrnau
- Olew gwastraff
- Peiriannau sgrap
- Cynwysyddion iechyd anifeiliaid
- Nodwyddau a chwistrelli
- Golch dip defaid
- Aerosolau
- Cortynnau belio a Rhwyd lapio
- Amddiffynwyr coed
Diffiniadau eraill o Wastraff
Peryglus
Diffiniad – yn ôl yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch:
‘Mae gwastraff yn cael ei ystyried yn ‘beryglus’ o dan ddeddfwriaeth amgylcheddol pan fydd yn cynnwys sylweddau neu os oes ganddo briodweddau a allai wneud iddo fod yn niweidiol i iechyd dynol neu i’r amgylchedd. Dydy hyn ddim yn golygu o angenrheidrwydd ei fod yn beryglus yn uniongyrchol i iechyd dynol, er y gallai peth gwastraff fod felly.’
http://www.hse.gov.uk/waste/hazardouswaste.htm
Diffiniadau eraill o Wastraff
Ailgylchadwy
Yn ôl ‘eschool’:
Ailgylchu yw prosesu deunyddiau sydd wedi’u defnyddio (gwastraff) yn gynhyrchion newydd, defnyddiol. Mae hyn yn cael ei wneud i leihau’r defnydd o ddeunyddiau crai a fyddai wedi cael eu defnyddio. Hefyd mae ailgylchu’n defnyddio llai o ynni ac mae’n ffordd wych o reoli llygredd aer, dŵr a thir.
https://www.eschooltoday.com/waste-recycling/what-is-recycling.html
Gwastraff Peryglus o Ffermydd
Gwaredu gwastraff peryglus - Mae rheoliadau llym sy’n gysylltiedig â gwaredu gwastraff peryglus. Mae gwastraff peryglus yn cynnwys:
- asbestos;
- cemegion, ee hylif breciau neu arlliwiwr (toner) argraffu;
- batris;
- toddyddion (solvents);
- plaladdwyr;
- olewau (heblaw am rai bwytadwy), ee olew car;
- offer sy’n cynnwys sylweddau sy’n teneuo oson, ee cypyrddau oer;
- cynwysyddion gwastraff peryglus.
Ailgylchu gwastraff
- Ailgylchu Plastig Amaethyddol
- Mae’r broses ailgylchu plastig yn cynnwys ei lanhau, ei larpio a’i droi’n beledi i’w defnyddio wedyn.
- Mae deunydd plastig sy’n addas i’w ailgylchu wedi’i ddosbarthu o dan god R ar gyfer adfer gwastraff, sy’n fanteisiol ar gyfer achrediadau amgylcheddol.
- Addas i’w hailgylchu
- Pecynnau a chynwysyddion plastig
- Deunydd lapio/ffilm silwair
- Deunydd lapio/ffilm byrnau
- Gorchuddion cnydau
- Twnelau polythen
- Drymiau plastig cemegau
- Bagiau gwrtaith
- Hambyrddau hadau
Ffynhonnell gwastraff organig
Ffynhonnell gwastraff organig
Ffynhonnell gwastraff organig
Ffynhonnell gwastraff organig
Ffynhonnell gwastraff anorganig
Ffynhonnell gwastraff anorganig
Ffynhonnell gwastraff anorganig
Ffynhonnell gwastraff anorganig
Ffynhonnell gwastraff anorganig
Ffynhonnell gwastraff anorganig
Ffynhonnell gwastraff anorganig
Ffynhonnell gwastraff anorganig
Ffynhonnell gwastraff anorganig
Ffynhonnell gwastraff anorganig
Ffynhonnell gwastraff anorganig
Ffynhonnell gwastraff anorganig
Ffynhonnell gwastraff anorganig
Ffynhonnell gwastraff anorganig
Crynodeb
- Gwastraff organig - gwastraff sy’n dod o blanhigyn neu anifail, fel arfer mae organebau’n gallu ei dorri i lawr
- Gwastraff anorganig - gwastraff sy’n dod o ddeunyddiau artiffisial, na fyddai’n dadfeilio drwy gael ei dorri i lawr gan organebau
- Gwastraff ailgylchadwy - gwastraff sy’n gallu cael ei ddefnyddio at bwrpas gwahanol i’w bwrpas gwreiddiol
- Gwastraff peryglus - gwastraff a allai achosi niwed, gan gynnwys yn anuniongyrchol, i’r amgylchedd ac i fodau dynol
Adnodd defnyddiol – Canllaw ar ddosbarthu ac asesu gwastraff