1: Cyflwyniad i Reoli Llygredd a Gwastraff
Erbyn diwedd y sesiwn hon byddwch chi’n gallu:
- Diffinio llygredd a gwastraff
- Nodi arferion ffermio sy’n gallu bod yn fygythiad i’r amgylchedd
- Trafod effaith llygredd ffermio ar yr amgylchedd
Llygredd
Term negyddol yw llygredd ac mae’n awgrymu bod mesurau i reoli gwastraff yn aneffeithiol. Nid ‘gwastraff’ yw pob cynnyrch sy’n weddill chwaith h.y. slyri, tail buarth a gwastraff bwyd. Gan mai ‘gwell rhwystro’r clwyf na’i wella’, enw mwy addas ar y modiwl hwn fyddai:
Rheoli maethynnau a gwastraff.
Pa ddiwydiannau amaethyddol sy’n llygru?
- Ffermydd bridio da byw
- Ffermydd âr
- Coedwigaeth
- Pysgota
- Garddwriaeth
- Unedau dofednod
- Unedau cynhyrchu moch
Tasg
Atebwch y cwestiynau canlynol drwy wneud ymchwil:
- Beth yw cyfartaledd y ddirwy am lygru’r afonydd â slyri gwartheg fferm?
- Beth yw rôl Cyfoeth Naturiol Cymru: Afonydd Cenedlaethol Cymru?
- Beth yw rôl Asiantaeth yr Amgylchedd?
- Beth yw rôl Llywodraeth Cymru wrth atal Llygredd fferm sy’n effeithio ar yr amgylchedd?
Crynodeb
- Mae llygredd yn broblem gynyddol yn y gymdeithas fodern ac mae ffermio’n un o’r diwydiannau sydd ar fai.
- Cytunir bod peth o’r ‘gwastraff’ ar ffermydd mewn gwirionedd yn ffynhonnell maethynnau sy’n gallu cael eu rhoi ar y tir.
- Mae gwastraff gan bob fferm ac mae’r ffordd y mae’n cael ei reoli’n effeithio ar ba mor debygol yw hi y bydd llygredd yn effeithio ar yr amgylchedd.
- Cyfrifoldeb ffermwyr yn bennaf yw atal llygredd o ffermydd rhag effeithio ar yr aer, y dŵr, a’r pridd.
- Mae gan lywodraethau ac asiantaethau amgylcheddol rôl i’w chwarae o ran addysgu, gan roi arweiniad ar arferion da a monitro.
- Mae gan rai cyrff hawl i erlyn ffermwyr sy’n methu cydymffurfio â’r gyfraith.